Coedwig Genedlaethol Cymru – Rydym bellach yn rhan ohoni

10 Hydref 2024

Coedwig Genedlaethol Cymru – Rydym bellach yn rhan ohoni

Rydym yn falch o fod yn rhan o Rwydwaith Coedwigoedd Cenedlaethol Cymru.

Mae Coedwig Genedlaethol Cymru yn fenter unigryw dan arweiniad Llywodraeth Cymru i sefydlu rhwydwaith cenedlaethol o goetiroedd a choedwigoedd o dan reolaeth o ansawdd uchel. Nawr, trwy'r Cynllun Statws Coedwig Genedlaethol a chyda chefnogaeth gan y Tîm Swyddogion Cyswllt Coedwigoedd Cenedlaethol, gall mwy o safleoedd coetir ymuno â'r rhwydwaith.

Bydd Coedwig Genedlaethol Cymru yn:

  • ymestyn hyd a lled Cymru, gan ei gwneud yn hygyrch i bawb
  • bod yn fenter gymunedol go iawn gyda choetiroedd newydd yn cael eu plannu gan gymunedau, ffermwyr a thirfeddianwyr ledled Cymru
  • creu ardaloedd coetir newydd yn ogystal ag adfer a chynnal coetiroedd unigryw ac anhepgor presennol Cymru
  • amddiffyn natur a mynd i'r afael â cholli bioamrywiaeth, gan gefnogi iechyd a lles cymunedau hefyd

I gael rhagor o wybodaeth am ymuno â'r rhwydwaith neu sut allwch chi helpu i gefnogi'r Goedwig Genedlaethol, cysylltwch â NationalForestWalesStatus@naturalresources.wales .

Ewch i Goedwig Genedlaethol Cymru | LLYW.Wales i gael gwybod mwy am y rhaglen a'r rhwydwaith.