
Mae Parc Gwledig Bryngarw ar agor i ymwelwyr bob dydd, ond mae ein maes parcio, toiledau cyhoeddus a chanolfan ymwelwyr ar agor 7 diwrnod yr wythnos, rhwng 10am a 4pm yn ystod misoedd y gaeaf, a 10am a 5pm yn ystod misoedd yr haf.
Mae mynediad i'r parc AM DDIM a dim ond £3.50 yw'r gost i barcio am hanner diwrnod a £5 i barcio drwy'r dydd. Rydym yn derbyn arian parod a thaliadau digyswllt.

I'n hymwelwyr rheolaidd, rydym yn argymell prynu tocyn parcio ceir blynyddol o'r caffi.
Mae hyn yn costio £42 ac yn ddilys am 12 mis o ddyddiad y pryniant.
Mae Bryngarw yn cael ei reoli gan Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, elusen gofrestredig, rhif 1166908. Mae'r incwm parcio ceir a dderbyniwn yn cael ei ailfuddsoddi yn ôl yn y Parc Gwledig, i'w wneud yn lle hardd i ymweld ag ef drwy gydol y flwyddyn.




