Os hoffech chi grwydro'r parc ar ddwy olwyn yn hytrach nag ar droed, beth am beicio drwy gefn gwlad deiliog ar hyd Llwybr Cymunedol Dyffryn Garw (884)? Mae'n llwybr beicio cymharol hawdd sy'n rhedeg o Barc Gwledig Bryngarw i Flaengarw ac yn cysylltu â llwybrau eraill, fel Dyffryn Ogwr, Mynydd Cynffig a llwybrau Celtaidd. Mae Llwybr Beicio Cenedlaethol 4 hefyd yn mynd heibio'n agos at y parc ar ei ffordd o Ben-y-bont ar Ogwr i Bort Talbot.
Os hoffech chi stopio am ddiod a rhywbeth i'w fwyta yn ein caffi, mae gennym ni loches feiciau wrth ymyl y ganolfan ymwelwyr. Yn unol â'i hamgylchedd, mae gan y loches feiciau do sedwm gwyrdd, sy'n cynnwys amrywiaeth o blanhigion blodeuol gwyllt lluosflwydd i annog bioamrywiaeth.
Gyda golygfeydd gwych a digonedd o fywyd gwyllt i'w weld, mae Bryngarw yn lle gwych i fynd am dro ar eich beic!



