Mae profiad uniongyrchol o'r byd naturiol yn rhan hanfodol o addysg plentyn. Ym Mryngarw rydym wedi treulio blynyddoedd lawer yn darparu profiadau dysgu cyffrous sy'n seiliedig ar natur i ysgolion a grwpiau addysgol, felly rydym yn gwybod sut i sicrhau bod plant yn cael y gorau o ymweliad yma.

Mae ein sesiynau dan arweiniad y Ceidwaid yn rhoi’r cyfle i ddysgu am natur dan arweiniad arbenigwyr sydd â gwybodaeth fanwl am y planhigion, yr adar a’r anifeiliaid sy’n byw ym Mharc Gwledig Bryngarw. Mae gennym hefyd ganolfan addysg fodern ragorol sy’n caniatáu i’n cynnig addysg addasu i’r elfennau a’r tymhorau.

Mae ein sesiynau Hunan-arweiniad newydd sbon yn ddewis arall fforddiadwy i'n sesiynau dan arweiniad y Ceidwaid, lle gallwch chi logi ardal o'r parc i'ch dosbarth ei defnyddio'n gyfan gwbl, a gall tîm y Ceidwaid roi pecyn gweithgareddau i chi sy'n cynnwys canllawiau ar rywogaethau, cynlluniau gwersi a mwy.
I archebu sesiynau dan arweiniad ceidwad neu ardal o'r parc ar gyfer sesiwn hunanarweiniedig, e-bostiwch bryngarw.park@awen-wales.com .



