Cynllun cerdyn teyrngarwch yn lansio yng nghaffi Bryngarw

19 Mai 2023

Cynllun cerdyn teyrngarwch yn lansio yng nghaffi Bryngarw

Rydym yn falch o lansio cynllun cerdyn teyrngarwch newydd yng Nghaffi Parc Gwledig Bryngarw .

O ddydd Sadwrn 29ain o Ebrill, gallwch gasglu cerdyn teyrngarwch wrth y til i'w stampio gyda phob diod boeth rydych chi'n ei brynu a derbyn y chweched un am ddim!

Mae telerau ac amodau yn berthnasol:

  1. Rhaid cyflwyno'r cerdyn adeg y pryniant i gael ei stampio.
  2. Mae diodydd sy'n gymwys ar gyfer stamp yn cynnwys coffi, te, siocled poeth a the arbenigol.
  3. Os byddwch chi'n colli eich cerdyn, ni allwn ni adfer stampiau y gallech chi fod wedi'u cronni o'r blaen.