Maes chwarae Parc Gwledig Bryngarw yn ailagor!

21 Gorffennaf 2023

Maes chwarae Parc Gwledig Bryngarw yn ailagor!

Mae ein maes chwarae yn ôl ar agor!

Ar ôl bod ar gau yr wythnos hon i ailosod rhywfaint o risgl rhydd ar waelod offer chwarae'r plant, mae wedi ailagor mewn pryd ar gyfer gwyliau'r haf.

Diolch arbennig i hyfforddeion Wood-B sydd wedi gweithio'n galed i glirio'r maes parcio o risgl gormodol heddiw!

Gobeithiwn y bydd ein hymwelwyr yn mwynhau defnyddio'r ardal chwarae unwaith eto am haf o hwyl, peidiwch ag anghofio ein tagio mewn unrhyw luniau a dynnwch yn ystod eich ymweliad.