Planhigion haf B-Leaf ar werth o 24 Mai
19 Mai 2023

Bydd planhigion gwely haf a basgedi crog ar werth yn B-Leaf o ddydd Mercher 24 Mai.
Bydd amrywiaeth eang o blanhigion, blodau a llwyni ar werth, yn ogystal â basgedi crog parod o wahanol feintiau.
Mae rhestr brisiau 2023 ar gael i'w gweld ar-lein , ac ar sianeli cyfryngau cymdeithasol B-Leaf.
O ddydd Mercher 24 Mai tan ddydd Sul 2 Gorffennaf, bydd B-Leaf ar agor o 9am i 4pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener ac o 10am i 4pm, dydd Sadwrn a dydd Sul, ac eithrio'r wythnos sy'n dechrau dydd Llun 29 Mai i ddydd Gwener 2 Mehefin pan fydd yr oriau agor yn 10am i 4pm.
Mae B-Leaf wedi'i leoli o fewn tiroedd Parc Gwledig Bryngarw, ewch tuag at Dŷ Bryngarw a bydd arwyddion yn eich tywys i'r chwith i'r maes parcio.
Rheolir B-Leaf gan Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, elusen gofrestredig, ac mae elw o'r gwerthiannau hyn yn cael ei ailfuddsoddi mewn prosiectau sy'n cefnogi oedolion ag anableddau dysgu.