Cyflwyniad i Rywogaethau Estron Ymledol
Dysgwch fwy am rywogaethau ymledol a sut allwch chi helpu i atal y lledaeniad!
Mae'r gweithdy'n cynnwys cyflwyniad yn Y Nyth, ac yna taith gerdded dywys o amgylch Parc Gwledig Bryngarw i gofnodi rhywogaethau gan ddefnyddio Ap LERC Cymru.
Addas ar gyfer oedrannau 16+. Argymhellir bod gennych ffôn clyfar ar gyfer y gweithdy hwn.