Lle i Anadlu

Lle i Anadlu

Mae Awen yn gweithio mewn partneriaeth â Tanio i gynnig grwpiau celfyddydau creadigol wythnosol i unrhyw un sy'n cael trafferth gydag unigrwydd neu arwahanrwydd, yn byw gydag iechyd meddwl neu gorfforol gwael, neu a fyddai'n elwa o weld wyneb cyfeillgar, croesawgar neu gwrdd â phobl newydd.

Mae'r sesiynau am ddim, a ariennir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn cynnig cyfleoedd celf, cerddoriaeth, symudiad ac ysgrifennu creadigol yn Y Nyth, ein Canolfan Addysg a Llesiant.