Ydych chi'n chwilio am fath mwy anturus o barti pen-blwydd?
Beth yw Partïon Pen-blwydd Bryngarw?
Ym Mharc Gwledig Bryngarw rydym yn cynnig partïon gwylltgrefft ar y cyd â The Craft Junction. Rydym yn cynnig ystod o weithgareddau o helfa pryfed i adeiladu ffau a mwy! Ni waeth beth fyddwch yn ei ddewis, bydd y plant yn gallu defnyddio llawer o egni o amgylch ein parc prydferth wrth i’r rhieni fwynhau awyr iach y parc gwledig.
Beth sydd wedi’i gynnwys yn y parti?
Byddwch yn defnyddio ein canolfan addysg newydd, Y Nyth, fel eich canolfan cyn cychwyn ar yr antur yr ydych wedi’i ddewis i ddarganfod llawer o bethau yn y parc cyn dychwelyd am ginio.
Bydd eich parti yn para 2 awr, a fydd yn cynnwys eich gweithgaredd ac amser ar gyfer bwyd.
Mae’r dewisiadau bwyd yn cynnwys pitsa, cŵn poeth, creision, diod ffrwythau a hufen iâ.
Faint mae parti Bryngarw yn ei gostio?
Mae’r gost yn dibynnu ar nifer y gwesteion sydd gennych, dyma ein prisiau sy’n cynnwys gweithgareddau, offer a bwyd ar gyfer pob plentyn:
– 10 o blant = £24 y plentyn (£240)
– 15 o blant = £21 y plentyn (£315)
– 20 o blant = £18.50 y plentyn (£370)
Mae gennym le i hyd at 25 o blant (isafswm o 10) fwynhau ein lle awyr agored.
Sut ydw i’n archebu?
I holi am y dyddiadau sydd ar gael, anfonwch e-bost i events@awen-wales.com neu ffoniwch 01656 729009.
Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion dietegol neu faterion hygyrchedd wrth archebu.