Coetiroedd
Cerddwch ymysg coed castanwydd p锚r aeddfed, coed derw hynafol a choed ffawydd tal wrth i chi fforio drwy goedwigoedd cyfareddol Bryngarw. Yn y gwanwyn mae ein coedwigoedd yn garped o glychau鈥檙 gog ac yn gartref i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt gan gynnwys llwynogod, gwiwerod a chnocellau鈥檙 coed. Ar hyd ochr yr afon mae safle coetir gwlyb sy’n bwysig yn ecolegol.


Glaswelltiroedd
Teimlwch y gwynt yn eich gwallt wrth i chi gamu i fyny’r bryn glaswelltog uwchben y parc; mae ein dolydd blodau gwyllt brodorol yn ardaloedd hardd wedi’u ffinio gan wrychoedd hynafol sy’n llawn rhywogaethau. Dyma le perffaith i gymryd saib a mwynhau golygfeydd ysblennydd ar draws y dyffryn at y mynyddoedd ymhellach draw.
Gardd Ddwyreiniol
Ewch am dro hamddenol drwy ein Gardd Ddwyreiniol hardd, a gr毛wyd rhwng 1910 a 1920. Mae’n brydferth drwy gydol y flwyddyn: mae’r gwanwyn a’r haf yn dod 芒 blodau rhododendronau, magnolias ac asaleas ac yn yr hydref gallwch fwynhau lliwiau coch, aur ac oren llachar y masarn Japaneaidd. Mae’r bont a’r pagoda addurnol yn cynnig golygfannau hyfryd lle gallwch fwynhau鈥檙 arddangosfa ragorol o goed, llwyni, blodau, cerrig addurnol a llusernau.


Gwlyptiroedd
Crwydrwch ar hyd glannau Afon Garw a chadwch eich llygaid ar agor am fywyd gwyllt – efallai y cewch gipolwg ar las y dorlan yn plymio am bysgod. Mae glannau cerrig m芒n yr afon a鈥檌 doleniadau diarffordd yn cynnig mannau hyfryd i orffwys a mwynhau synau’r afon. Mae’r llyn addurnol sy’n agos i’r t欧 – hoff gyrchfan y crehyrod glas ac adar d诺r – yn fan perffaith arall ar gyfer taith gerdded fach.