Cysylltwch
Mae Swyddfa Parcmyn Bryngarw y tu cefn i’r canolfan ymwelwyr.
Cyfeiriad
Parc Gwledig Bryngarw
Brynmenyn
CF32 8UU
Manylion Cyswllt
E-bost: bryngarw.park@awen-wales.com
Ymholiadau
Llogi lleoliad
Ymholiadau parti penblwydd
Ymholiadau marchnata a chyfryngau
Ymholiadau rhaglen digwyddiadau
Grwp Gwirfoddoli
FAQs
Faint o'r gloch ydy'r parc yn agor?
Mae’r Parc bob amser ar agor i gerdded i mewn, fodd bynnag, mae ein maes parcio, canolfan ymwelwyr a’n cyfleusterau toiledau ar agor o 10am tan 5.30pm rhwng mis Ebrill a mis Medi ac o 10am tan 4.30pm o fis Hydref i fis Mawrth.
Pryd mae'r fynedfa i鈥檙 maes parcio'n cau?
Mae’r rhwystr i’r maes parcio yn cau am 5.30pm o fis Ebrill i fis Medi ac yn gynt, am 4.30pm rhwng mis Hydref a mis Mawrth.
Os ydych chi ym Mryngarw ar 么l yr amser yma, byddwch chi’n dal i allu gadael y maes parcio, ond bydd ein cyfleusterau ar gau.
A ganiateir c诺n ym Mryngarw?
Heb os nac oni bai! Mae ein caffi hefyd yn croesawu c诺n ac yn gwerthu hufen i芒 c诺n, pup-a-chinos, a danteithion..
Gofynnwn yn garedig fod c诺n yn cael eu cadw ar dennyn ym mhrif ardaloedd y parc a鈥檆h bod yn codi ac yn gwaredu baw c诺n yn y biniau a ddarperir.
Pryd mae鈥檙 caffi ar agor?
Mae ein caffi ar agor o 10am tan 4.30pm o fis Ebrill i fis Medi ac o 10am tan 3.30pm o fis Hydref i fis Mawrth.
A ydy beiciau yn gallu dod i鈥檙 parc?
Ydyn! Fodd bynnag, gofynnwn yn garedig mai dim ond y trac beicio dynodedig y mae beicwyr yn ei ddefnyddio.
Mae llwybr y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol (rhif 884) yn cychwyn ym Mharc Gwledig Bryngarw ac yn gorffen ym Mlaengarw. Ychydig iawn o draffig sydd, ac felly mae鈥檔 berffaith i deuluoedd ei ddilyn.
Ydych chi'n gwerthu tocynnau blynyddol parcio ceir?
Ydyn, Mae tocynnau blynyddol ar gael i’w prynu o’n caffi am 拢42. Maent yn ddilys am 12 mis o鈥檙 dyddiad prynu.
Pam mae rhaid i ni dalu i barcio ym Mryngarw?
Caiff Bryngarw ei reoli gan Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, elusen gofrestredig (rhif 1166908). Mae’r incwm parcio rydyn ni’n ei dderbyn yn cael ei ail-fuddsoddi yn 么l i’r Parc Gwledig, er mwyn ei wneud yn lle hardd i ymweld ag ef gydol y flwyddyn. Gyda 113 o erwau i’w harchwilio, a chyfleusterau gwych i’w mwynhau, teimlwn fod 拢3.50 am ddiwrnod cyfan yn cynnig gwerth ardderchog am arian. Rydym yn derbyn taliadau arian parod a cherdyn digyswllt.
A allwn ni fwydo'r hwyaid?
Mae bwydo’r hwyaid ym Mryngarw yn draddodiad teuluol hyfryd sy’n helpu plant ifanc i gysylltu 芒 natur.
Mae croeso i chi fwydo’r hwyaid, ond byddai’n well gennym na fyddech yn bwydo bara iddynt. Yn hytrach, ystyriwch ddod 芒 cheirch, corn melys, pys, neu hadau eraill gyda chi, gan fod y rhain yn llawer iachach iddyn nhw.
A yw'r ardal chwarae yn addas i blant bach?
Mae gennym offer chwarae sy’n addas i bob oed a gallu. Dylid goruchwylio鈥檙 plant gan oedolion trwy鈥檙 amser.
A oes unrhyw offer chwarae i blant anabl?
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd chwarae cynhwysol i bob plentyn, ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf rydym wedi buddsoddi mewn offer hygyrch yn cynnwys siglen cadair olwyn, siglen basged a chylchfan.
Gallwch hefyd ddod o hyd i fwrdd PECS庐 yn y maes parcio i gael cymorth gweledol.
A yw B-Leaf ar agor i'r cyhoedd?
Mae B-Leaf ar agor i鈥檙 cyhoedd o Ddydd Llun i Ddydd Gwener, 9am hyd at 4pm. Mae eu stoc ar gyfer gwely blodau a’u basgedi crog ar werth rhwng diwedd Mai a dechrau Awst, ond mae rhai llwyni a phlanhigion ar gael i’w prynu drwy’r flwyddyn.
Mae B-Leaf hefyd yn gwerthu coed Nadolig a phlanhigion Nadoligaidd ddechrau mis Rhagfyr. Rydym yn ddiolchgar i gwsmeriaid sy’n cefnogi B-Leaf, rhaglen sy’n seiliedig ar waith ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu, drwy eu pryniannau a鈥檜 rhoddion.
Sut gallaf gael mwy o wybodaeth am gynnal priodasau, digwyddiadau corfforaethol ac achlysuron arbennig yn Nh欧 Bryngarw?
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch 芒’r t卯m dros y ff么n neu Whatsapp ar 01656 729009 neu e-bostio events@bryngarwweddings.com.
Ewch i wefan T欧 Bryngarw am fwy o wybodaeth www.bryngarwhouse.com/cym/.
Pa ddigwyddiadau sydd ymlaen yn ystod y flwyddyn?
Rydym yn cynnal amrywiaeth eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau drwy’r flwyddyn, o weithgareddau a arweinir gan geidwad y parc, fel trochi pyllau a theithiau cerdded natur i ddigwyddiadau proffesiynol megis perfformiadau theatr awyr agored.
Ewch i’n tudalen Digwyddiadau am drosolwg llawn ac i archebu tocynnau.
Tanysgrifiwch i'n rhestr ebost
Lorem ipsum dolor sit amet, consectetuer adipiscing elit. Aenean commodo ligula eget dolor. Aenean massa. Cum sociis natoque penatibus et magnis dis parturient n commodo ligula eget dolor. Aenean massa. Cum sociis natoque penatibus et magnis dis parturient