Bywyd Gwyllt
O frogaod a madfallod d诺r i hwyaid a chnocellau’r coed, mae creaduriaid rhyfeddol di-rif i’w darganfod ym Mharc Gwledig Bryngarw.
Mae’n anodd credu bod Afon Garw hardd yn arfer cael ei galw yr “afon ddu” oherwydd llygredd trwm y diwydiant glo. Nawr mae’n gynefin ffyniannus i las y dorlan, bronwen y d诺r a鈥檙 siglen lwyd – ac yn y nos, gellir gweld ystlumod y d诺r yn hedfan ychydig uwchben wyneb y d诺r. O dan yr wyneb, mae’r afon wedi’i phoblogi ag amrywiaeth gyfoethog o bysgod fel y pysgodyn rhudd a brithyll ac infertebratau gan gynnwys larfau鈥檙 gwybedyn Mai a’r pryf gwellt.
Mae’r pyllau bywyd gwyllt yn ein Gardd Ddwyreiniol yn gartref i amffibiaid megis llyffantod dafadennog, brogaod, a madfallod d诺r balfog, tra bo gan y llyn boblogaeth iach o bysgod gan gynnwys y pysgodyn rhudd a鈥檙 ysgreten. Mae ganddo hefyd adar d诺r megis hwyaid gwyllt a gwyddau Canada – ac ar foreau cynnar yn yr haf efallai y gwelwch chi las y dorlan yn plymio o ganghennau uwchben y d诺r i gipio pysgod bach o’r dyfroedd.
Mae llwynogod, gwiwerod, cnocellau鈥檙 coed a thylluanod brych yn byw yn ein coetiroedd aeddfed, brodorol: wrth i chi gerdded rhwng y coed tal, clustfeiniwch am s诺n drymio cnocell y coed yn y gwanwyn, neu ymwelwch yn nes at y cyfnos am gyfle i gael cipolwg ar lwynog.
Mae ein planhigion yn rhagorol hefyd. Mae’r parc yn cael ei reoli’n sensitif i ddiogelu ei fioamrywiaeth ac mae ganddo tua chwe erw o ddolydd blodau gwyllt hardd 鈥 nodwedd arbennig o bwysig o ystyried bod y DU wedi colli 97% o’i dolydd blodau gwyllt ers yr Ail Ryfel Byd. Mae’r dolydd wedi’u hymylu gan wrychoedd, rhai ohonynt yn gannoedd o flynyddoedd oed.
Mae ein coetiroedd cymysg aeddfed yn gartref i goed brodorol fel y gastanwydden b锚r, y ffawydden a鈥檙 dderwen, a llawer ohonynt wedi bod yma ers canrifoedd. Yn ystod y gwanwyn, mae lloriau’r coetir yn garped ysblennydd o glychau’r gog.
Mae ein parcmyn yn arbenigwyr ym maes planhigion a bywyd gwyllt Bryngarw ac maen nhw ar gael i ddweud mwy wrthych am yr hyn y gallwch ei weld yma. Cadwch eich llygaid ar agor am lwybrau natur arbennig, teithiau cerdded tywysedig a digwyddiadau eraill 鈥 ac os ydych eisiau cymryd mwy o ran, dysgwch sut i fod yn wirfoddolwr.
Teithiau Cerdded
Beth bynnag fo lefel eich ffitrwydd, mae gennym ni daith gerdded ar eich cyfer chi. Gallwch ddilyn eich trwyn neu gadw at un o’n llwybrau a gynlluniwyd eisoes. Mae pedair rhan benodol o’r parc i’w mwynhau:
Llwybrau natur
Ffordd wych o ddarganfod fflora a ffawna Parc Gwledig Bryngarw yw dilyn un o’n teithiau cerdded natur. Mae gennym dri llwybr ag arwyddbyst, y mae pob un ohonynt yn mynd 芒 chi drwy gynefin gwahanol. Chwiliwch am y pyst lliw a dilynwch goch ar gyfer Crwydro D么l, gwyrdd ar gyfer Cerdded y Coetir a glas ar gyfer Crwydro Glan yr Afon .
Darllen mwyLlwybrau beicio
Gwibiwch ar hyd Llwybr Cymunedol Cwm Garw am tua wyth milltir o Barc Gwledig Bryngarw i Flaengarw.
Taflennu darganfod
Mae ein parcmyn wedi creu nifer o weithgareddau i blant fwynhau pan fydden nhw yn y parc.
Lawrlwythwch ein taflenni darganfod.
Darllen mwy