AR AGOR 1af Ebrill – 30fed Medi: 10y.b – 5.30y.p | 1af Hydref – 31af Mawrth: 10y.b – 4.30y.p
Social media |
O deithiau cerdded i ddigwyddiadau straeon, mae rhywbeth i phawb ym Mharc Gwledig Bryngarw
Gyda dros 100 erw o ddolydd, gerddi a choetiroedd aeddfed, mae Parc Gwledig Bryngarw yn lle hudolus i ymweld ag ef. Gallwch fwynhau’r tawelwch yng nghanol blodau’r Ardd Ddwyreiniol; cerdded drwy goedwigoedd â’u carpedi o glychau’r gog; crwydro ar hyd glannau Afon Garw yn chwilio am Fronwen y dŵr a glas y dorlan; a gwylio’r plant yn mwynhau’r maes chwarae gyda’r sleid â’i dŵr enwog.
O lwybrau beicio a phyllau chwilota i deithiau darganfod a digwyddiadau adrodd straeon, mae rhywbeth i’w wneud yma drwy gydol y flwyddyn. Os ydych chi awydd ychydig o fwyd, mae gennym gaffi ardderchog – ond mae dewisiadau eraill hefyd: gallech logi barbeciw a choginio eich gwledd eich hun neu fwynhau picnic mewn dôl o flodau gwyllt.
Ar ddiwrnodau glawiog, ewch i’r ganolfan ymwelwyr i fwynhau’r arddangosfeydd digidol rhyngweithiol am y parc, y gornel lesiant dawel a mwy.
Mae gan Fryngarw hanes diddorol: adeiladwyd y tŷ godidog ar ddechrau’r 1800au ac mae’r ystâd ei hun yn ymestyn yn ôl ymhellach eto. Agorwyd Bryngarw yn barc gwledig swyddogol ar gyfer y cyhoedd ym mis Mai 1986, ac mae wedi ennill llawer o anrhydeddau ers hynny, gan gynnwys ennill statws Gwobr y Faner Werdd ac achrediad Treftadaeth Werdd, ac mae’n cael ei gydnabod yn un o’r mannau gwyrdd gorau yn y DU.
Teuluoedd
Beth bynnag yw oedran eich plant, mae digon iddynt ei fwynhau ym Mryngarw. Gallwch eu gadael yn rhydd ar ein maes chwarae llawn antur gyda’i sleid a’i dŵr enwog a’i ardal chwarae naturiol, sy’n wych ar gyfer adeiladu cuddfan. I gael hwyl dan do, ewch i’n canolfan ymwelwyr newydd lle gallant fwynhau’r man darganfod gyda’i gwtsh helyg canolog lle cynhelir sesiynau adrodd straeon.
Natur
Nid atyniad gwych i ymwelwyr yn unig yw Bryngarw; mae hefyd yn adnodd naturiol hynod bwysig sy’n cael ei reoli’n sensitif er mwyn diogelu a hyrwyddo ei fioamrywiaeth. Mae’r parcmyn yn cael eu cynorthwyo yng ngwaith cadwraeth cynefinoedd y parc gan ein tîm ymroddedig o wirfoddolwyr, ac yng ngwaith cynnal a chadw gan hyfforddeion B-Leaf.
Ysgolion a Grwpiau
Mae profiad uniongyrchol o fyd natur yn rhan hanfodol o addysg plentyn. Ym Mryngarw rydym wedi treulio blynyddoedd lawer yn darparu profiadau dysgu cyffrous sy’n seiliedig ar natur ar gyfer partïon ysgol, felly rydym yn gwybod sut i sicrhau bod plant yn manteisio i’r eithaf ar eu hymweliad yma. Mae gennym hefyd ganolfan addysg newydd, Y Nyth.
Mwynhaodd grŵp ieuenctid o ddarpar seryddwyr a phobl sy’n mwynhau yr awyr agored sy’n aros yn y Village Lodge ym Mettws noson o syllu ar y sêr ym Mharc Gwledig Bryngarw ddydd Gwener 4ydd Chwefror, diolch i Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen a’r Bartneriaeth Awyr Agored. Cafodd y digwyddiad, a ariannwyd gan fenter Gaeaf Llawn Lles Llywodraeth …
Celebrate a birthday with a fun-filled nature-based adventure in the great outdoors! Our new bushcraft birthday parties, run by an experienced Forest School instructor, include Survival, Minibeast, Fairy and Dino themes. Suitable for children aged between 5 and 12 years old, with a minimum of 10 and maximum of 25 children, parties are available to …
Calling all teachers! Bryngarw is the perfect location for outdoor education school trips. We have spent many years delivering exciting nature-based learning experiences for different year groups, so we know how to ensure pupils get the most out of their visit here. Our ranger-led sessions include nature walks, minibeast hunting, pond dipping and den building …
Our newly renovated café is open to the public every day from 10am to 4pm, and sells a range of hot and cold drinks, sandwiches, paninis, crisps, cakes and ice cream from local suppliers including Sarn-based Naturally Kind Food and Ogmore-by-Sea-based Welsh Coffee Company. Eat in or takeaway. As the café is operated by the …
Mae Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yn cael ei gweinyddu gan Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdestref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Diolch i’n arianwyr a’n cefnogwyr.