Wythnos Genedlaethol Pryfed – Taith Gerdded Dywysedig Peillwyr

I ddathlu Wythnos Genedlaethol Pryfed, rydym wedi gwahodd yr Entomolegydd Liam Olds i arwain taith gerdded dywys ar beillwyr ym Mryngarw.
Canolbwyntiodd y daith gerdded ar bryfed peillio, gan roi cyfle i gyfranogwyr weld ystod eang o bryfed gan gynnwys gloÿnnod byw, gwyfynod sy'n hedfan yn ystod y dydd, pryfed hofran, cacwn bwm, gwenyn unigol, chwilod a phryfed eraill. Bydd y daith gerdded yn ymdrin ag adnabod, cylchoedd bywyd ac ecoleg y peillwyr hyn.